Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

February 2009
M T W T F S S
« Jan    
 1
2345678
9101112131415
16171819202122
232425262728  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

6th February 2009

Breuddwyd ddigidol i’r llyfrgell Genedlaethol

Mae penderfyniad y Llyfrgell Genedlaethol i gau ar Ddydd Sadwrn o Ebrill y 1af ymlaen yn un anodd ei amddiffyn.  Onid Ffwl Ebrill fydd hi go iawn ar Gymru os ydi’n llyfrgell genedlaethol tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o’r boblogaeth? A hyn oll o i gynilo £80,000 allan o gyllideb o £13.4 miliwn?
 
Mae’r Llyfrgell Gen yn un o adeiladau a sefydliadau eiconig Cymru, yn gynnyrch mudiad adeiladu’r genedl drothwy’r ganrif cyn ddiwethaf a roddodd i ni hefyd yr Amgueddfa Genedlaethol.  Roedd y penderfyniad i  beidio ei lleoli yng nghanolfannau poblogaeth y De yn ddadleuol ar y pryd, ond yn adlewyrchiad o’r un ysbryd o ffederaliaeth oedd yn sail i’r Brifysgol.  O ganlyniad i hyn mae cenhedlaethau o ymchwilwyr, haneswyr a’r syml chwilfrydig wedi cyflawni pererindod fodern i dref wen dysg ar ben carreg ystwyth. Ysywaeth mi fydd yr ystafelloedd darllen mor groesawgar a stafell Cynddylan cyn hir. Wylaf wers, tawaf wedyn.
 
Nid Cymru fydd yr unig lyfrgell genedlaethol i gau ar y penwythnos: mae Mongolia a Indionesia yn dilyn yr un polisi.  Ac eto gwlad y gair yw Cymru ac mae dechrau cau y Llyfrgell i’r cyhoedd (os dim ond am un  diwrnod) yn symbol bron mor bwerus ei arwyddocâd a’i hagor nol ym 1907.  Dwi ddim yn amau ‘r pwysau ariannol. Mae cwtogiadau o 7% yng nghyllideb y Llyfrgell Prydeinig gan Lywodraeth San Steffan wedi cael effaith ar y gyllideb yng Nghymru trwy weithredu Fformiwla Barnett. Ac mae’r Trysorlys yn bygwth mynd a hanner miliwn pellach trwy newidiadau treth-ar-werth.  Ond os oedd angen cwtogiadau yn y gwasanaeth er mwyn gwneud arbedion onid defnyddwyr y gwasanaeth ddylai helpu o leiaf i adnabod yr anghenion gwirioneddol sylfaenol?  A ellir wedi cysidro cau ar ddydd Llun er enghraifft – fel mae’r Amgueddfa yn gwneud – yn lle’r penwythnos?
 
Mae cyfansoddiad y Llyfrgell yn gosod cyfrifoldeb statudol ar yr ymdiriedolwyr “i ymgynghori’n rheolaidd â’r cyhoedd a chyda chyrff â diddordeb mewn hyrwyddo amcanion y Llyfrgell”.  Mae yna Gorff Ymgynghorol gyda’r Llyfrgell ond dyn nhw heb gwrdd ers y cyhoeddiad.

 Mae angen trafodaeth genedlaethol ynghylch swyddogaeth Llyfrgell Genedlaethol yn yr unfed ganrif ar hugain – ac os oes rhaid dylid ffeindio ariannu trosiannol er mwyn caniatau hynny heb gau yn y cyfamser.  Rhan o’r broblem ydy pwyslais hollol gywir y Llyfrgell ar ddigidoli sydd yn mynd a chanran cynyddol o’r gyllideb.    Y nod cwbl gyffrous yw gwneud y casgliad cymreig ar gael i bawb yng Nghymru bob dydd o’r wythnos erbyn 2020. Ond beth am fynd un cam ymhellach a chreu y Llyfrgell Genedlaethol Ddigidol gyntaf yn Ewrop - a hynny mewn hanner yr amser gyda arian Ewropeaidd?  Byddai hynny yn golygu digidoli mwy na’r archif hanesyddol ond gwneud holl gynnwys - pob llyfr, record a ffilm cyfoes– ar gael am ddim gan greu fel mae Ynys Manaw yn cysidro ar raddfa fach, gwlad lle mae gwybodaeth a syniadau yn dylifo yn ddilyffethair.  Mae hynny yn freuddwyd genedlaethol yr un mor gyffrous a’r Llyfrgell gwreiddiol.  Llywydd y Llyfrgell – a Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru – ydy un o’r ychydig all ei gwireddu.

Leave a Reply

You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.

You must be logged in to post a comment.