Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

February 2009
M T W T F S S
« Jan   Mar »
 1
2345678
9101112131415
16171819202122
232425262728  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for February 6th, 2009

6th February 2009

Breuddwyd ddigidol i’r llyfrgell Genedlaethol

Mae penderfyniad y Llyfrgell Genedlaethol i gau ar Ddydd Sadwrn o Ebrill y 1af ymlaen yn un anodd ei amddiffyn.  Onid Ffwl Ebrill fydd hi go iawn ar Gymru os ydi’n llyfrgell genedlaethol tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o’r boblogaeth? A hyn oll o i gynilo £80,000 allan o gyllideb o £13.4 miliwn?
 
Mae’r Llyfrgell Gen yn un o adeiladau a sefydliadau eiconig Cymru, yn gynnyrch mudiad adeiladu’r genedl drothwy’r ganrif cyn ddiwethaf a roddodd i ni hefyd yr Amgueddfa Genedlaethol.  Roedd y penderfyniad i  beidio ei lleoli yng nghanolfannau poblogaeth y De yn ddadleuol ar y pryd, ond yn adlewyrchiad o’r un ysbryd o ffederaliaeth oedd yn sail i’r Brifysgol.  O ganlyniad i hyn mae cenhedlaethau o ymchwilwyr, haneswyr a’r syml chwilfrydig wedi cyflawni pererindod fodern i dref wen dysg ar ben carreg ystwyth. Ysywaeth mi fydd yr ystafelloedd darllen mor groesawgar a stafell Cynddylan cyn hir. Wylaf wers, tawaf wedyn.
 
Nid Cymru fydd yr unig lyfrgell genedlaethol i gau ar y penwythnos: mae Mongolia a Indionesia yn dilyn yr un polisi.  Ac eto gwlad y gair yw Cymru ac mae dechrau cau y Llyfrgell i’r cyhoedd (os dim ond am un  diwrnod) yn symbol bron mor bwerus ei arwyddocâd a’i hagor nol ym 1907.  Dwi ddim yn amau ‘r pwysau ariannol. Mae cwtogiadau o 7% yng nghyllideb y Llyfrgell Prydeinig gan Lywodraeth San Steffan wedi cael effaith ar y gyllideb yng Nghymru trwy weithredu Fformiwla Barnett. Ac mae’r Trysorlys yn bygwth mynd a hanner miliwn pellach trwy newidiadau treth-ar-werth.  Ond os oedd angen cwtogiadau yn y gwasanaeth er mwyn gwneud arbedion onid defnyddwyr y gwasanaeth ddylai helpu o leiaf i adnabod yr anghenion gwirioneddol sylfaenol?  A ellir wedi cysidro cau ar ddydd Llun er enghraifft – fel mae’r Amgueddfa yn gwneud – yn lle’r penwythnos?
 
Mae cyfansoddiad y Llyfrgell yn gosod cyfrifoldeb statudol ar yr ymdiriedolwyr “i ymgynghori’n rheolaidd â’r cyhoedd a chyda chyrff â diddordeb mewn hyrwyddo amcanion y Llyfrgell”.  Mae yna Gorff Ymgynghorol gyda’r Llyfrgell ond dyn nhw heb gwrdd ers y cyhoeddiad.

 Mae angen trafodaeth genedlaethol ynghylch swyddogaeth Llyfrgell Genedlaethol yn yr unfed ganrif ar hugain – ac os oes rhaid dylid ffeindio ariannu trosiannol er mwyn caniatau hynny heb gau yn y cyfamser.  Rhan o’r broblem ydy pwyslais hollol gywir y Llyfrgell ar ddigidoli sydd yn mynd a chanran cynyddol o’r gyllideb.    Y nod cwbl gyffrous yw gwneud y casgliad cymreig ar gael i bawb yng Nghymru bob dydd o’r wythnos erbyn 2020. Ond beth am fynd un cam ymhellach a chreu y Llyfrgell Genedlaethol Ddigidol gyntaf yn Ewrop – a hynny mewn hanner yr amser gyda arian Ewropeaidd?  Byddai hynny yn golygu digidoli mwy na’r archif hanesyddol ond gwneud holl gynnwys – pob llyfr, record a ffilm cyfoes– ar gael am ddim gan greu fel mae Ynys Manaw yn cysidro ar raddfa fach, gwlad lle mae gwybodaeth a syniadau yn dylifo yn ddilyffethair.  Mae hynny yn freuddwyd genedlaethol yr un mor gyffrous a’r Llyfrgell gwreiddiol.  Llywydd y Llyfrgell – a Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru – ydy un o’r ychydig all ei gwireddu.