Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

December 2008
M T W T F S S
« Nov   Jan »
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for December, 2008

15th December 2008

Colofn Golwg - Does Neb Uwchlaw Cyfraith Gwlad - Nobody’s Above the Law of the Land

Roedd yna adeg pan nad oedd yn rhaid i wleidyddion Prydeinig ofni’r cnoc diharebol ar y drws gan yr Heddlu. Wrth gwrs, roedd yna sgandal o bryd i’w gilydd. Fe ddedfrydwyd Aelod Seneddol druan o’r Cymoedd cyn y Rhyfel am roddi gwarant rheilfford i’w wraig a’i ferch ddod lan i Lundain er mwyn gwneud eu siopa Nadolig. Hefyd, fe fygythiwyd mab yng nghyfraith Winston Churchill gyda carchar am ryddhau cyfrinachau ynghylch diffyg paratoadau Prydain at yr Ail Ryfel Byd. Ond eithriadau prin ydy rhain mewn gwladwriaeth oedd yn diffinio’i hun fel mangre rhyddid: Magna Carta, y Senedd Hir, Chwyldro Gogoneddus 1688 ‘and all that’.
Ond ers dyddiau Siarl y Cynaf, mae yna fwy o wleidyddion wedi canfod eu hunain o dan ymchwiliad. Yn ystod yr ugain mlynyedd diwethaf yr ydym wedi gweld carcharu cyn-weinidog a chyn-gadeirydd y Blaid Geidwadol am gelwydd-dra; mae sawl un arall wedi cael eu cyhuddo o lwgrwobrwyo; ac mae Prif Weinidog wedi cael ei gwestiynu – yr un cyntaf erioed - yn yr ymchwiliad arian-i’r-arglwyddi.
Gyda’r agwedd cyffredin tuag at wleidyddion yn gyffredinol wedi troi yn un o hollol negyddol, byddai rhai yn croesawu’r newyddion yma gyda cryn foddhad, os nad ambell i ‘Haleliwia’. Ac eto, mae democratiaeth iach yn dibynnu ar ddenu y gorau i gynnig gwasanaethu.
Esgeulustra sydd yn pery i’r rhan fwyaf o wleidyddion dorri rheolau cymhleth cyfraith etholidaol – gan gynnwys yr un yma. Ond mae yna dinc o haerllugrwydd weithiau hefyd yn ymdreiddio i fewn i feddylfryd y gwleidydd. Dyna paham y mae rhan fwyaf o sgandalau gwleidyddol yn effeithio ar y blaid sydd mewn grym, sleaze Toriaidd yn y 90au, sgandalau ariannu Llafur newydd y ddegawd hon. Rol yr awdurdodau ydy atgoffa’r blaid mewn grym nad ydynt yn anorchfygol. Nid arestio aelod o’r wrthblaid am wneud ei waith. Dyna pam mae achos Damian Green yn wahanol i’r sgandalau eraill. Yma nid gwleidydd, ond gwleidyddiaeth ei hunan sydd yn cael ei erlyn – ac nid ar gais rhyw gorff annibynnol fel y Comisiwn Etholiadol ond ar gais y Llywodraeth ei hunan - nhw a alwodd yr heddlu i fewn. Cefais innau yr un profiad o gael fy nghwestiynu gan yr un Cangen Arbennig o’r heddlu Metropolitan yn dilyn yr ymgyrch uchelgyhuddo a derbyn dogfennau cyfrinachol oedd yn dwyn embaras ar Blair. Gwrthodais i gydweithredu ar bwynt o egwyddor. Does neb goruwch y gyfraith, ond cyfraith gwlad nid gwladwriaeth yw hi fod.
 
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

There was a time when British politicians didn’t have to fear the dreaded knock on the door from the Police. That’s not to say that there weren’t any scandals from time to time. A Member of Parliament from the Valleys was sentenced before the War for giving his wife and daughter a train ticket to travel to London to do their Christmas shopping. Also, Winston Churchill’s son in law was threatened with prison for releasing secrets about Britain’s lack of planning for World War Two. But these were rare incidents, in a state which defines itself as a beacon of freedom: the Magna Carta, the Long Parliament, the Glorious Revolution of 1688 ‘and all that’.
But since the days of Charles the First, more and more politicians have found themselves under investigation. In  the past twenty years, we’ve seen a former minister being jailed as well as the former chairman of the Conservative Party for lying; several others have been accused of bribery; and a Prime Minister has been questioned - the first one ever - in the cash for honours investigation.

 

With the general attitude towards politicians generally being quite a negative one, some would welcome this news with a great deal of pleasure, if not a few “alleluias”. But yet, a healthy democracy depends on being able to tempt the best to serve as politicians.

It’s carelesness which leads to the majority of politicians breaking some complex electoral law - including this one. But there is also a hint of brazenness that can penetrate a politicians psyche. That’s why more political scandals usually hit the party in government - the Tory parties sleaze in the 90s and Labour’s money scandals during this decade. The role of the authorities is to remind the party in power that it isn’t invincible not arrest a member of the opposition for doing his job. That’s why the case surrounding Damian Green is different to all the other scandals. Here, its not a politician but rather politics itself that’s being prosecuted. - and following a request, not from an independent body such as the Electoral Commission but from the Government’s itself - they are the ones who called the police in. I was once questioned by the same Special Branch of the Metropolitan police following the campaign to impeach Blair, and receiving secret documents which would embarrass Blair. I refused to co-operate as a matter of principle. No one is above the law, but that law should be the law of the land rather than the states law.

10th December 2008

Colofn Golwg: Asiantaeth Gyfryngol i Gymru - Media Agency for Wales

Tair oes aur sydd yna i gyfathrebu yng Nghymru:  barddoniaeth yr Oesoedd Canol, gweisg y bedwaredd ganrif ar bymtheg a theledu’r ugeinfed.  Dim ond ychydig o ormodiaith yw honi taw’r BBC, HTV/ITV Cymru ac S4C yw Dafydd Gwilym , Iolo Goch a Dafydd Nanmor ein hoes ni. 

 

Os oedd adfywiad ymwybyddiaeth ceneledlaethol cyfnod Cymru Fydd yn gynnyrch oes aur cyhoeddi yng Nghymru, roedd dadeni diwedd yr ugeinfed yn ganlyniad i deledu.   Mae bodolaeth Cymru fel cenedl ymwybodol fodern i raddau helaeth iawn yn deillio o’r cyfrwng: nid ar hap a damwain y cysylltir enw Gwynfor Evans mor agos a sefydlu’r unig sianel deledu fasnachol Gymreig erioed, WWN, a’r unig sianel yn y byd i gael ei sefydlu oherwydd bygythiad ympryd. Nawr ar drothwy’r oes ddigidol yr ydyn ni ar fin gweld - gyda phroblemau ariannol ITV, yn yr iaith Saesneg o leiaf - diwedd nawdd i drafod cyfoes ar Gymru, gan  Gymry yr un mor aphwysol ag effaith brad yr uchelwyr yn yr unfed ganrif ar hugain.  Nid ar y BBC yn unig y bydd byw dyn.

 

Yr ateb yn yr Alban meddai Comisiwn wedi sefydlu gan y Llywodraeth SNP ydy sianel ddigidol newydd.  Ac eto gall unrhyw un sefydlu sianel yfory ar ‘Youtube’ am ddim.  Sut mae sicrhau digon o gynnwys cyffreiddiol, cyfredol am Gymru, o Gymru, i Gymru ydy’r cwestiwn craidd.  Mae’r cwestiwn o gyfrwng yn eil-radd er cyn bwysiced ydy cadw ITV yn y tymor byr.

 

Mae consensws nawr yn codi tu ol i’r syniad o Asiantaeth Gyfryngol i Gymru fyddai a chyllideb a gofyniad statudol i gomisynu cynnwys gwasanaeth gyhoeddus i Gymru.  Mae gweld yr asiantaeth dim ond yng nghyd-destun ITV tra bod y sector print mewn argyfwng a diffyg presenoldeb Cymru ar y we yr un mor amlwg a’n hanweladwyedd ni ym myd teledu ddwy genhedlaeth yn ol yn rhy gul o lawer.  Rhaid cynnwys pob cyfrwng ym maes gorchwyl yr asiantaeth gan wahodd ceisiadau gan bapurau newydd, gorsafoedd radio, cwmniau gwe a theledu annibynnol yn ogystal ac ITV ei hunan neu Reuters, Sky News, News Wales neu pwy bynnag arall sydd am gynnig gwasanaeth newyddion Cymreig. 

 

 Does dim rheswm ychwaith pam na ddylai’r Asiantaeth fod yn gyfrifol yn yr un modd am gyllideb S4C a’r contract ar gyfer papur dyddiol Cymraeg.  Nid sefydliadau wedi’r cwbl sydd yn bwysig ond safbwyntiau.  A beth yw pris yr oes aur newydd cyfathrebol hon: tua £25 miliwn y flwyddyn o arian ychwanegol. Ceiniogau yn oes y cywyddwyr.