Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

February 2009
M T W T F S S
« Jan   Mar »
 1
2345678
9101112131415
16171819202122
232425262728  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for February 12th, 2009

12th February 2009

Y Gymraeg am droi’n bwnc dadlau eto

Ers eu lambastio gan yr Adroddiad King am eu diffyg diddordeb a dealltwriaeth o’r byd tu allan i Lundain, mae gwasanaeth newyddion y BBC yn ceisio ei gorau glas i wneud yn iawn am eu diffygion cynt. Ond mae nhw dal yn gweld Cymru trwy delisgôp Llundeining: ‘dadleuol’, ‘drudfawr’ a ’sgepticaidd’ oedd yr ansoddeiriau oedd yn neidio allan o’r penawde ar y rhaglen ‘Today’ ar ol i’r golygydd gwasgu darn mwy cytbwys Wyre Davies i siap oedd yn cydymffurfio yn fwy taclus i ragfarnmau diswyliedig eu gwrandawyr yn Siroedd y Ddeheudir Seisnig.  
 

Roedd yr ymosodiadau a’r dychan ymostyngol i’w disgwyl gan y Telegraph.  Ac mae David Davies, chwarae teg iddo fe, o leiaf wedi bod yn gyson ei wrthwynebiad i hawliau ieithyddol.   Yn fwy siomedig oedd gwrthwynebiad Ann Beynon o BT. Ie, dylai bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg y mae nhw’n eu cynnig yn barod.  Ond ymhlyg yn y gosodiad y mae’r awgrym bod hawl cwmni trawswladol i beidio cynnig gwasanaeth Cymraeg yn fwy pwysig na hawl y dinesydd mewn gwlad ddwyieithog i’w derbyn.   All neb wasanaethu dau feistr, ond does dim byd yn dweud, Ann,  bod rhaid i ni gyd ildio bob tro i Famon.   

Yn fwy siomedig fyth oedd ymateb Rhodri Williams nad oedd biliau dwyieithog yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i’r iaith Gymraeg.  Fel cyn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg nid ddylai bod rhaid ei atgoffa o ymgyrch hir y teulu Beasley am orchymyn treth Cymraeg a gostiodd mor uchel iddyn nhw.   Oedd hynny yn ofer?.  Onid yw pwer symbolaidd arwyddion a thestun ac argaeledd gwasanaethau yn tanlinellu y neges bwysicaf un: bod y Gymraeg yn gydradd ac yn rhan annatod o’r Gymru gyfoes.  Ac ie mi fydd dyfodol a lle priodol y Gymraeg yn troi unwaith eto yn bwnc dadlau.  Ond mewn mis lle mae un gwleidydd Llafur wedi cyfaddef ei fod yn casau Cymry Cymraeg ac un arall wedi cyhuddo Cyngor Caerdydd am lanhau ethnig trwy hyrwyddo ysgolion Cymraeg mae’n amlwg nad yw’r consensws wedi ymdreiddio i bob man, beth bynnag.  Os oes yna ragfarnau ieithyddol allan yno mae’n well gen i weld pobl yn eu mynegi yn agored fel bod modd eu herio a’u gwrthbrofi. 

Yn y pendraw arwydd o hyder cenedlaethol yw mynnu dwyieithrwydd ymhob agwedd o fywyd.  Nid damwain yw hi taw’r tair gwlad sydd a’r gofynion ieithyddol cryfaf ar gwmniau preifat – Catalunya,  Quebec a Fflandrys – ydy’r rhai mwyaf llwyddiannus yn economaidd ymhlith cymunedau ieithoedd llai.  Hyder yn eich hunan – eich iaith, eich hanes, eich hunaniaeth – ydy’r cam cyntaf i’r hyder personol sydd yn esgor ar lwyddiant economiadd.  I fynnu dyfodol, mae rhaid i ni yn gyntaf fynnu parch.