Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

July 2008
M T W T F S S
« Jun   Aug »
 123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for July 17th, 2008

17th July 2008

Colofn Golwg

Etholwyr Sir Gâr a ddaeth i’n hachub y bore anhygoel hwnnw o Fedi 1997. Ond etholwyr yr Alban a roddodd yr hwb allweddol, gyda’u pleidlais byddarol o ‘Ie’ yr wythnos flaenorol. Gyda’n golygon ni nawr ar gael Senedd ein hunain, gall yr Alban unwaith eto chwarae rol allweddol. Nid son am yr is-etholiad yn Glasgow ydw i, er y bydda i, a byddin o Bleidwyr, yn heidio yno i helpu dros yr wythnos nesaf mewn adlais o’r Gododdin. Yn hytrach, cyfeirio ydw i at bleidlais arall fydd yn newid hanes nid un, ond pedair gwlad.

Mae dwy o bleidiau’r Alban yn llythrennol ddi-arweiniad ar hyn o bryd. Un thema fydd yn dominyddu etholiadau arweinyddol Llafur a’r Dem-Rhyddion, sef refferendwm annibynniaeth yr SNP. Tro-bedol Wendy Alexander ar y pwnc – ac ymateb llugoer Llafur yn San Steffan – oedd yn rhannol gyfrifol am ei phenderfyniad i roi’r cotbib yn y to. Fel yng Nghymru, a’r brigâd hances-sidan Touhig-Murffiaidd, mi fydd yna rai yn siwr o geisio manteisio ar y cyfle i droi’r cloc yn ôl a dadnwneud y trywydd neo-cenedlaetholaidd. Mae’r MSP Iain Gray – enw digon addas ar gyfer y y Cysgod-weinidog Cyllid digon di-liw hwn– yn cael ei hybu gan Brown a gweddill yr alltudion ar feinciau Llafur yn Llundain. Cawn wybod mewn wythnos os bydd hynny o unrhyw gymorth.

Mae Cathy Jamieson ac Andy Kerr, ymgeiswyr o weddillion chwith y blaid yn fwy tebygol o gadw at addewid Alexander i gefnogi Mesur yr SNP ar Refferedwm pan y’i gyflwynir yn 2010. Mae’r Rhyddfrdywr hefyd yn trafod newid eu safwbynt. Hyd yn oed pe byddai Llafur yn newid eu polisi eto felly, mi fyddai dal yn bosib i Salmond ennill y dydd.

Gyda’r mesur yn cael ei gyflynwo yn Ionawr 2010 y tebyg yw y bydd y refferendwm – ar agor trafodaethau annibbyniaeth - yn yr Hydref. Beth bynnag yw’r canlyniad, bydd ymgyrch yr Alban yn cysgodi y cwestiwn tra gwahanol fydd o’n blaenau ni yng Nghymru. Os ydym yn benderrfynol o lwyddo, dim ond un opsiwn sydd mewn gwirionedd sef i gynnal y refferendwm ar yr un diwrnod ac Etholiad y Cynulliad. Mae’n bwysig nodi nad oes gan y Comisiwn Etholiadiadol, sydd wedi mynegi anfodlonrwydd ynglyn a’r awgrym, ddim rol o gwbl yn y penderfyniad a bod Deddf Llywodraeth Cymru eisoes yn cynnwys cymal sydd yn son am yr union bosibilrwydd yma o gyfuno refferndwm ac etholiad. Gyda cefnogwyr datganoli yn fwy tebygol o fynd allan i bleidleisio, os ydym am weld Senedd i Gymru, dyma’r cyfle gorau gawn ni am genhedlaeth.