Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

May 2008
M T W T F S S
« Apr   Jun »
 1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for May, 2008

29th May 2008

Colofn Golwg

 Ar gampws pencadlys cwmni Google yng Nghalifornia mae yna fodel o tyrranosaurus rex i atgoffa pawb o’r hyn ddigwyddodd i`r deinosoriaid. Tra bod Google yn tyfu`n ddyddiol mae yna restr o gwmniau, neu hyd yn oed sectorau cyfan sydd yn brysur troedio´r llwybr o ddominyddiaeth i ddifodiad. 

Mae´r rhestr hon, yn ol Google, yn cynnwys papurau newydd.  Yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mae 80% o´r bobl a anwyd yn y 20au yn darllen papur newydd o gymharu gydag 20% o’r rhai a gafodd eu geni yn yr 80au.  Ar y raddfa yma o ddirywiad fydd yna ddim papurau newydd o gwbwl yn cael eu gwerthu ymhen ychydig dros chwarter canrif. 

Dau reswm sydd am argyfwng ariannol papurau newydd.  Mae llai o bobl yn eu prynu yn bennaf oherwydd bod papurau newydd wedi colli eu monopoli ar dorri newyddion i´r cyfryngau torfol yn gyntaf ac i´r We, yn arbennig yn sgil dyfodiad Google News.  Yn ail, mae nhw wedi colli eu marchnad hysbysebu.  Mae yna nifer cynyddol o bapurau newydd sydd yn ennill eu helw yn fwy trwy’r we na’i fersiynau inc.  Yn Norwy, er enghraifft, mae cyfradd elw fersiwn ar-lein y papur mwyaf boblogaidd yn 45%. 

Mae`r dyhead i greu papur newydd yn un dealladwy yn y cyd-destun Cymreig oherwydd y diffyg darpariaeth yn Gymraeg a Saesneg o gymharu a´r Alban. Ond yno hefyd mae`r sector mewn argyfwng,    Mae gwerthiant yr Herald wedi gostwng 46% mewn ugain mlynedd ac mae record y Scotsman bron cynddrwg.  Yn ol yr ysgolhaig Americanaidd Philip Meyer, ar dueddiadau presennol, fe fydd y ddau bapur yma wedi diflannu erbyn 2018. 

Mae penderfyniad awdurdodau lleol yr Alban a’r Llywodraeth SNP i hysbysebu ar lein yn unig  o hyn ymlaen yn hoelen  anferthol – gwerth tua £47 miliwn y flwyddyn – yn arch newyddiaduraeth print Albanaidd.  Fe fydd rhaid i´r sector cyhoeddus yng Nghymru ddilyn eu hesiampl tra`n cydnabod yr angen i gefnogi newyddiaduraeth Cymreig. 

Yng nghyd-destun penodol newyddiaduraeth Cymraeg rhaid cydnabod bod i bob cyfnod gyfrwng allweddol sydd yn erfyn normaleiddio – Beibl William Morgan, gweisg y ganrif cyn-ddiwethaf, radio a theledu a nawr y We.  Dyw cefnogwyr y Byd na cholofnwyr Barn a Planet na’r rhan fwyaf o intelligentsia Aberystwyth ddim yn cytuno yn ol pob son. Ond mae`r byd yn newid, ac mae rhaid i ni gofleidio`r newid neu ddarganfod ein hunain, fel beirdd y Canol Oesoedd  ar ol Brad yr Uchelwyr (oedd yn frad go iawn, gyda llaw) yn bobl a chyfrwng ond heb gynulleidfa, yn ddeinosoriaid deallusol.   

22nd May 2008

Colofn Golwg

Mewn rhifyn diweddar o’r cylchgrawn Barn fe ddywedodd yr Athro Richard Wyn Jones nad oedd y Blaid wedi llwyddo i greu naratif clir ynglyn a’i llwyddiannau mewn llywodraeth. Mae Dicw – fel y’i adnabyddir gan bawb – yn ‘gyfaill beirniadol’ i’r mudiad cenedlaethol felly dylid cymeryd y sylwadau hyn yn yr ysbryd y’i cynhigir. Wedi dweud hyn, yr oedd proffwydoliaethau rhai o wrthwynebwyr y Blaid o dranc y mudiad yn bell oddi ar y marc – mae’r map llywodraeth leol yn fwy gwyrdd nag erioed. Gyda blwyddyn gyntaf y Blaid Mewn Grym yn brysur nesau, teg yw gofyn pa wahaniaeth mae’r Blaid wedi ei wneud mewn gwirionedd?
 
Rhaid dechrau gydag un o sloganau’r ymgyrch: ‘achubwch ein hysbytai’. Wel, do fe achubwyd Ysbytai Llandudno, Llanelli a Bronglais – ac ad-dalwyd codiad cyflog y nyrsys - addewid arall wnaethpwyd gan Ieuan Wyn cyn yr etholiad. Ar y cwestwin cenedlaethol, fe fydd Confensiwn Cymru-Gyfan yn dechrau ei waith yn ystod mis Gorffennaf, a’r comisiwn ariannu yn cael ei sefydlu yn fuan hefyd. Ym maes yr amgylchedd, mae’r targed o gwtogiad o 3% o allyrannau carbon yn un o’r rhai mwyaf uchelgeisiol yn y byd. Fe fydd y cynllun peilot ar gliniaduron i blant – prosiect agos iawn i’m calon i – yn dechrau y flwyddyn nesaf. ‘Roedd hawl i ofal plant yn un o brif flaenoriaethau’r Blaid a fe fydd £120 miliwn yn cael ei glustnodi er buddsoddi yng nghymry’r dyfodol. O ran addysg cyfrwng Cymraeg fe fydd yna strategaeth newydd wedi ei gytuno erbyn y Gwanwyn ac fe fydd yna ofyniad statudol i awdurdodau lleol hwyluso addysg Cymraeg. Ymhellach, mae’r cynllun hir-ddisgwyliedig ar gyfer Coleg Ffederal Cymraeg ar fin cael ei gyhoeddi.
 
Mae trethi busnes wedi eu torri yn barod – a, ie, Dylan Jones-Evans – fe gant eu torri ymhellach. Mae cynllun mynediad fel bod amaethwyr ifainc yn cael troedle o fewn y diwyniadant – syniad a fathwyd gyntaf gan Cynog Dafis fel rhan o ymgyrch Credigion 1992 – o’r diwedd yn cael ei weithredu. A phwy well na arweinydd cenedlaethol o Fôn yn weinidog trafnidiaeth i ddechrau’r gwaith o uno’r genedl trwy drawnewid ei chysylltiadau De a Gogledd? Yn ystod y flwyddyn nesaf fe fydd cynghorau Plaid Cymru yn adeiladu tai cyngor eto am y tro cyntaf ers cenhedlaeth. Ac er gwaetha’r Toriaid, fe fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y cedwir stoc o dai cymdeiathasol mewn ardalaoedd sydd a diffyg cyflenwad ar gyfer pobl lleol.
 
Syniadau Plaid Cymru oedd yr uchod i gyd, er bod y rhan fwyaf wedi eu derbyn gan bob un o’r pleidiau erbyn hyn. Nid Plaid Cymru yw ffurfafen gwleidyddiaeth Cymru, ond yn sicr ei seren ddisgleiriaf a chliriaf hi yr haf yma. A seren fore ydi hon.

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

In a recent issue of the Welsh language magazine Barn Dr Richard Wyn Jones stated that Plaid Cymru had failed to produce a clear narrative about its successes in government. Dicw - as he is known by everyone - is a ‘friendly critic’ of the national movement and therefore his comments should be taken in the same spirit as they were given. Even so, the predictions made by same of Plaid’s opponents that the movement was faltering were way off the mark - the local government map is greener than ever. With the first anniversary of Plaid in Government now imminent, its fair to ask what difference Plaid has truly made?

We must begin with one of the campaign’s slogans: ’save our hospitals’. Well, yes, Llandudno, Llanelli and Bronglais hospitals were all saved and nurses were reimbursed with their pay rises - a promise made by Ieuan Wyn before the election. On the national question, an All-Wales convention will start its work in July, and the financial commission will also be established before long. In the environmental field, the target to reduce carbon emissions by 3% is one of the most ambitious targets in the world. The pilot scheme to provide children with laptops - a project close to my heart - will begin next year The right to childcare was one of Plaid’s main priorities and a £120 million will be set aside to invest in our future generations. Regarding Welsh language education, a new strategy will be agreed by the Spring and it will be a statutory obligation for local authorities to facilitate Welsh language education. Further, the long awaiting plan for a Welsh Federal College is about to be announced.
 
Business taxes have already been cut, and yes, Dylan Jones-Evans - they will be cut further. The entrance scheme so that young agriculturalists get a foot in the door of the industry - an idea proposed by Cynog Dafis during the 1992 campaign in Ceredigion - is at last being realised. And who better than a national leader from Anglesey as a transport minister to implement the beginning of a plan to unite the nation by transforming connections between North and South? Over the next year, Plaid Cymru councils will be building council houses for the first time in a generation. And, despite the Tories, Wales’ Government will be ensuring that a stock of social houses will remain in areas were there is a lack of availability for local people.
 
All of the above are mainly Plaid Cymru ideas, though they have been accepted by nearly every party by now. Plaid Cymru isn’t the sky of Welsh politics, but is certainly its brightest and clearest star this summer. And its a morning  star.

16th May 2008

Colofn Golwg

Beth bynnag arall y gellir dweud am ladmeryddion y CBI a golygyddion y Western Mail, ar gwestiwn tragwyddol priod le yr iaith Gymraeg ym mywyd Cymru, mae nhw wedi bod yn gytun ac yn gyson ar hyd yr oesoedd. Pan gyhoeddodd y cwango iaith gwreiddiol – Cyngor yr Iaith Gymraeg (a benodwyd gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf) - ei adroddiad terfynol ar ddyfodol yr iaith, fe gyhoeddodd ‘Llais y Sais’ olygyddol a oedd yn lladd ar yr argymhellion o dan y teitl: Afrealedd Cymru Ddwyieithog. Fe benderfynodd yr Ysgrifenydd Gwladol ar y pryd mai mater i’r Cynulliad oedd dyfodol yr iaith Gymraeg. Claddwyd yr argymhellion ynghyd a datganoli ar Ddydd Gwyl Dewi y flwyddyn wedyn er mawr lawenydd i ysgriblwyr Thomson House.
 
 
Nawr bod gennym Gynulliad o’r diwedd mae dyfodol yr iaith nol yn ein dwylo ni. Democratiaeth ydi fy ngair i am y broses sydd dros y blynyddoedd wedi gorfodi cwmniau proffidiol i wneud pethau sydd o fudd cyffredinol na fydda nhw ddim yn ei wneud fel arall – peidio cyflogi plant, lladd eu gweithwyr trwy ddiffyg diogelwch, llygru’r amgylchedd, talu menywod yn llai na dynion, ac yn y blaen. Y gwir plaen yw mewn sustem gyfalafol sydd yn cael ei yrru gan y cymhelliad elw, er gwell neu er gwaeth, mae angen elfen o ‘orfodaeth’ i sicrhau cymdeithas war.
 
Nid yw’r rhan fwyaf ohonom ni yn cwestiynu’r angen am reoleiddio cwmniau sydd yn cyflogi, cynhyrchu a masnachu er mwyn gwneud arian. Wedi’r cwbl mae’r cwmniau hyn yn dibynnu arnon ni fel cymdeithas i sicrhau sustem gyfreithiol ayyb er mwyn gwarchod eu buddiannau a chyflenwi eu hanghenion. Mae cymdeithas yn cynnig trwydded i gwmni weithredu ar yr amod bod y cwmni yn parchu ac yn cyfrannu tuag at gynnal y gymdeithas honno. Mae hyn yn ymestyn i fwy na thalu threthi – mae’n cynnwys ymlyniad i ufuddhau y gyfraith sydd yn crisialu gwerthoedd y gymdeithas gynhenid.
 
I’r Western Mail a’r CBI dyw dwyieithrwydd ddim yn ddigon gwerthfawr i’w ddyrchafu i’r lefel o fod yn ddisgwyliad ar unrhyw un yn y sector preifat neu gwirfoddol. Mae hyn yn drueni, gan bod y CBI wedi colli cyfle unwaith eto i gau’r gagendor sydd wedi bodoli rhwng y diwylliant busnes yng Nghymru a’r diwylliant Cymreig a Chymraeg am ganrif a hanner. Mae agwedd ein papur cenedlaethol Saesneg yn fwy o siom fyth. Go brin y gellid nawr rhagweld y rhain yn rhedeg gwasaneth newyddion Cymraeg. Dyna fyddai afrealedd go iawn.

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

Whatever you say about the spokesmen of CBI and the editors of the Western Mail on the eternal question of the Welsh language’s proper place in the life of Wales, they’ve been consistent and in agreement across the ages.

When the original language quango -the Welsh Language Council (appointed by the last Labour Government)- published its final report on the future of the language, the editorial ‘English Voice’ attacked the recommendations under the title ‘The Unreality of a Bilingual Wales’.

The then Welsh Secretary decided that the future of the Welsh language was a matter for the Assembly. The recommendations were laid to rest, along with devolution, on St David’s Day the following year to the joy of the WM scribblers in Thomson House.

Now that we finally have an Assembly the future of the language is back in our hands. Democracy is my word for the process which over the years has compelled profit making companies to do things which are for the common good but which they would not have done otherwise - not employing children,killing their workers through lack of safety, poluting the environment, paying women less than men, and so on.

The plain truth is, in a capitalist system that is driven by the motive of making a profit, for better or for worse, an element of ‘compulsion’ is needed to ensure a civilised society.

Most of us do not doubt the need to regulate companies which employ, produce and market in order to make money. After all these companies depend on us as a society to to ensure a legal system and so on to protect their interests and accomplish their needs.

Society offers a license for the companies to operate, on the condition that the companies respect and contribute to supporting that society. This goes beyond paying taxes - it includes an adherence to obeying laws which crystalize the values of the indigenous society.

For the Western Mail and the CBI bilingualism is not of sufficient worth to be requisite for anyone in the private or voluntary sector. This is a pity, as the CBI has lost the opportunity once again to close the gap which has existed for a century and a half between the business culture in Wales and the Welsh and Welsh speaking culture.

The attitude of our national English paper is even more of a dissappointment. We can hardly see these people running the Welsh language news service now. That would be a real unreality.