Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

December 2008
M T W T F S S
« Nov    
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

17th July 2008

Colofn Golwg

Etholwyr Sir Gâr a ddaeth i’n hachub y bore anhygoel hwnnw o Fedi 1997. Ond etholwyr yr Alban a roddodd yr hwb allweddol, gyda’u pleidlais byddarol o ‘Ie’ yr wythnos flaenorol. Gyda’n golygon ni nawr ar gael Senedd ein hunain, gall yr Alban unwaith eto chwarae rol allweddol. Nid son am yr is-etholiad yn Glasgow ydw i, er y bydda i, a byddin o Bleidwyr, yn heidio yno i helpu dros yr wythnos nesaf mewn adlais o’r Gododdin. Yn hytrach, cyfeirio ydw i at bleidlais arall fydd yn newid hanes nid un, ond pedair gwlad.

Mae dwy o bleidiau’r Alban yn llythrennol ddi-arweiniad ar hyn o bryd. Un thema fydd yn dominyddu etholiadau arweinyddol Llafur a’r Dem-Rhyddion, sef refferendwm annibynniaeth yr SNP. Tro-bedol Wendy Alexander ar y pwnc – ac ymateb llugoer Llafur yn San Steffan – oedd yn rhannol gyfrifol am ei phenderfyniad i roi’r cotbib yn y to. Fel yng Nghymru, a’r brigâd hances-sidan Touhig-Murffiaidd, mi fydd yna rai yn siwr o geisio manteisio ar y cyfle i droi’r cloc yn ôl a dadnwneud y trywydd neo-cenedlaetholaidd. Mae’r MSP Iain Gray – enw digon addas ar gyfer y y Cysgod-weinidog Cyllid digon di-liw hwn– yn cael ei hybu gan Brown a gweddill yr alltudion ar feinciau Llafur yn Llundain. Cawn wybod mewn wythnos os bydd hynny o unrhyw gymorth.

Mae Cathy Jamieson ac Andy Kerr, ymgeiswyr o weddillion chwith y blaid yn fwy tebygol o gadw at addewid Alexander i gefnogi Mesur yr SNP ar Refferedwm pan y’i gyflwynir yn 2010. Mae’r Rhyddfrdywr hefyd yn trafod newid eu safwbynt. Hyd yn oed pe byddai Llafur yn newid eu polisi eto felly, mi fyddai dal yn bosib i Salmond ennill y dydd.

Gyda’r mesur yn cael ei gyflynwo yn Ionawr 2010 y tebyg yw y bydd y refferendwm – ar agor trafodaethau annibbyniaeth - yn yr Hydref. Beth bynnag yw’r canlyniad, bydd ymgyrch yr Alban yn cysgodi y cwestiwn tra gwahanol fydd o’n blaenau ni yng Nghymru. Os ydym yn benderrfynol o lwyddo, dim ond un opsiwn sydd mewn gwirionedd sef i gynnal y refferendwm ar yr un diwrnod ac Etholiad y Cynulliad. Mae’n bwysig nodi nad oes gan y Comisiwn Etholiadiadol, sydd wedi mynegi anfodlonrwydd ynglyn a’r awgrym, ddim rol o gwbl yn y penderfyniad a bod Deddf Llywodraeth Cymru eisoes yn cynnwys cymal sydd yn son am yr union bosibilrwydd yma o gyfuno refferndwm ac etholiad. Gyda cefnogwyr datganoli yn fwy tebygol o fynd allan i bleidleisio, os ydym am weld Senedd i Gymru, dyma’r cyfle gorau gawn ni am genhedlaeth.

One Response so far to “Colofn Golwg”

  1. Alwyn ap Huw says:
    July 17th, 2008 at 5:55 pm

    “Mae’r MSP Iain Gray – enw digon addas ar gyfer y y Cysgod-weinidog Cyllid digon di-liw hwn”

    Be di enw arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn rhywbeth? :-)

    Onid oes berygl o ddenu’r rhai sydd yn gryf yn erbyn datganoli i’r bwth pleidleisio trwy gynnal refferendwm ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad? Oni fydd hyn yn cryfhau pleidlais y Ceidwadwyr a Llafur ac yn niweidio’r Blaid?

Leave a Reply

You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.

You must be logged in to post a comment.