Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

July 2008
M T W T F S S
« Jun   Aug »
 123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for July 31st, 2008

31st July 2008

Colofn Golwg

Mae yna ddadl bosibl o gael dim ond un arweinydd i blaid wleidyddol – yn achos fy mhlaid i y Dirprwy (a darpar) Brif Weinidog.  Ond mae yna beryglon mewn rhoi eich wyau i gyd mewn un fasged.  Un o’r prif resymau am lwyddianau Llafur Newydd oedd y bartneriaeth (a’r tensiwn) rhwng Blair a Brown.  Mae Brown yn ddi-werth ar ei ben ei hun.
 

Mae pleidiau gwleidyddol angen dau fath o arweinydd.  Mae’r ex dominus yn cyfathrebu gyda’r bobl yn gyffredinol, gan ymestyn cefnogaeth y Blaid tu allan i’w cadarnleoedd.  I wneud hynny mae’n rhaid cadw y bleidlais graidd yn hapus a dyna lle mae rôl yr in dominus yn allweddol.  Blair wnaeth ymestyn tiriogaeth wleidyddol ar draws Lloegr-ganol, yn llwyddo i gynnwys  papurau Rupert Murdoch, toreth o filiynwyr a chwpl o gyn-Aelodau Seneddol Toriaidd yn ei babell fawr ef.. 

 

Ond pe na bai Gordon Brown wedi chwarae rôl yr indominus (’yr ydym ar ein gorau pan fyddwn Lafur’) yn ei ffordd ddiffuant, ddifrifol a John Prescott wedi cyflawni’r un dasg mewn ffordd llai deallusol, mwy comig, fyddai Prosiect Llafur Newydd byth wedi llwyddo.  Yn yr un modd mae llwyddiant Ieuan Wyn Jones i brofi wrth relyw pobl Cymru nad plaid y cyrion eithafol mo cenedlaetholwyr Cymreig wedi’r cwbl, ond mudiad sydd yn medru llywodraethu dros Gymru gyfan, yn llwyddiannus, yn dawel fedrus yn dibynnu ar allu’r Blaid i osgoi siom a dadrithiad ymhlith rhengoedd ei chefnogwyr traddodiadol. 

 

Nid ar chwarae bach mae llwyddo i wneud hyn.  Yn hanner gyntaf y ddegawd hon mi brofodd y Blaid cyfres o siomedigaethau a bygythiadau yn ei chadarnleoedd – colli Môn, colli Ceredigion, twf Cymuned fel adwaith i ‘fethiant’ y Blaid i wynebu argyfwng ieithyddol y Fro.  Yn y cyd-destun hwn mi lwyddodd Dafydd Iwan – fel ffigwr eiconig yn dod o gefndir o genedlaetholdeb traddodiadol - i sefydlogi’r cwch.  Hyn alluogodd ni  i fynd ati i foderneiddio’r Blaid – yn fwayf cofiadwy wrth newid y logo i’r pabi, prosiect yr oedd Dafydd yn frwd iawn o’i blaid.
 

Mae twf y Blaid yng ngweddil Cymru yn parhau – ond yn y gogledd-orllewin yr ydym wedi gorffen y ddegawd i ryw raddau lle ddechreuon ni, gyda phryder ymhlith ein cefnogwyr traddodiadol am ffyddlondeb y Blaid i’w hegywddorion creiddiol. Y cynllun ysgolion oedd y sbardun ond mae hyn efallai yn symptom o rywbeth mwy.   Elfyn , yn fy marn i, ydy’r indominus sydd a’r hygrededd sydd ei angen ar gyfer y cyfnod nesaf.  Anfaddeuol fyddai ennill tir eto yng ngweddill Cymru, tra’n colli yn yr iard gefn.