Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

August 2008
M T W T F S S
« Jul    
 123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

17th December 2007

Colofn Golwg

Ers ei chreu ym 1995 mae’r Loteri Genedlaethol wedi gwneud cyfraniad cynyddol i adfywhau cymunedau difreintiedig. Efallai mai’r adeiladau eiconig fel y Stadiwm a’r Ganolfan Mileniwm ddaw i’r meddwl yn gyntaf – ond mae miloedd o brosiectau bach trwy’r wald wedi adeiladu ac adfer hyder lleol. Ond mae’r hyder newydd hwnnw yn nawr yn cael ei aberthu er mwyn porthi’r prosiect adeiladu mwyaf yn y ddinas gyfoethocaf yn Ewrop, y Gemau Olympaidd. Yn ôl y cynnig gwreiddiol, £410 miliwn yn unig oedd cyfraniad y Loteri i ariannu’r Gemau. Pe bae cyfrifo creadigol yn gamp Olynmpaidd mi fyddai’r Llywodraeth yma yn sicr o gipio’r aur. Nid syndod ond siom, felly, fu cyhoeddiad Tessa Jowell yn gynharach eleni y byddai rhaid i’r Loteri ildio mwy, llawer mwy nag addawyd ar y cychwyn.  Yn ôl y Gynghrair o awdurdodau lleol yn yr ardaloedd diwydiannol traddodiaol bydd cyfanswm o £2, 175 miliwn yn cael ei ddargyfeirio o’r Loteri i ariannu’r Gemau. Mae hyn yn cynnwys £340 miliwn o’r cronfeydd ar gyfer chwaraeuon – gan gynnwys y Gronfa Gymreig - £750 miliwn yn sgil creu y garden crafu Olympaidd newydd. Mae’r cyfanswm yn cyfateb i £36 i bob person ym Mhrydain. A’r Loteri yn unig ydy hwn, wrth gwrs: dyw hi ddim yn cynnwys y gost i’r trethdalwr. Mae’r effaith i weld yn lleol yn barod. Mae pob un o’r canolfannau teuluol yn Sir Gaerfyrddin sydd yn cael ei rhedeg o dan adain prosiect Plant Dewi yr Eglwys yng Nghymru wedi derbyn arian gan Gronfa Fawr y Loteri. Mae’r Canolfannau yn cynnig cymorth yn arbennig i deuluoedd dan anfantais – a than nawr mae’r Loteri wedi cefnogi ail gyfnod o ariannu ym mhob achos. Ond mae Canolfan Deuluol y Betws, ger Rhydaman, nawr yn wynebu cau yn sgil gwrthodiad eu cais er gwaetha’r lleoliad ar stad gyngor mewn ardal cyn-lofaol a ddioddefodd yn waeth nag unrhyw le dan grafangau Thatcheriaeth. Yn y gystadleuaeth rhwng y Gemau a gofal plant does dim ond un ennillydd. Ond mi fydd miliyniau yn colli. Yn ôl y Gynghrair, bydd Sir Gaerfyrddin yn unig yn colli £6.5 miliwn. Ar hyn o bryd mae Llundain ar ei hennill ddwywaith drosodd, nid yn unig trwy’r buddsoddiad gwreiddiol ond am y ffaith mai Asiantaeth Datblygu Llundain fydd yn elwa o werthu tir y Pentref Olympaidd wedi’r Gemau. Oni ddylai’r arian yna redeg i bob rhan o’r Deyrnas – neu efe i’r pant unwaith yn rhagor y gwelwn y dŵr yn rhedeg? 

Leave a Reply

You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.

You must be logged in to post a comment.