Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

August 2008
M T W T F S S
« Jul    
 123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

29th May 2008

Colofn Golwg

 Ar gampws pencadlys cwmni Google yng Nghalifornia mae yna fodel o tyrranosaurus rex i atgoffa pawb o’r hyn ddigwyddodd i`r deinosoriaid. Tra bod Google yn tyfu`n ddyddiol mae yna restr o gwmniau, neu hyd yn oed sectorau cyfan sydd yn brysur troedio´r llwybr o ddominyddiaeth i ddifodiad. 

Mae´r rhestr hon, yn ol Google, yn cynnwys papurau newydd.  Yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mae 80% o´r bobl a anwyd yn y 20au yn darllen papur newydd o gymharu gydag 20% o’r rhai a gafodd eu geni yn yr 80au.  Ar y raddfa yma o ddirywiad fydd yna ddim papurau newydd o gwbwl yn cael eu gwerthu ymhen ychydig dros chwarter canrif. 

Dau reswm sydd am argyfwng ariannol papurau newydd.  Mae llai o bobl yn eu prynu yn bennaf oherwydd bod papurau newydd wedi colli eu monopoli ar dorri newyddion i´r cyfryngau torfol yn gyntaf ac i´r We, yn arbennig yn sgil dyfodiad Google News.  Yn ail, mae nhw wedi colli eu marchnad hysbysebu.  Mae yna nifer cynyddol o bapurau newydd sydd yn ennill eu helw yn fwy trwy’r we na’i fersiynau inc.  Yn Norwy, er enghraifft, mae cyfradd elw fersiwn ar-lein y papur mwyaf boblogaidd yn 45%. 

Mae`r dyhead i greu papur newydd yn un dealladwy yn y cyd-destun Cymreig oherwydd y diffyg darpariaeth yn Gymraeg a Saesneg o gymharu a´r Alban. Ond yno hefyd mae`r sector mewn argyfwng,    Mae gwerthiant yr Herald wedi gostwng 46% mewn ugain mlynedd ac mae record y Scotsman bron cynddrwg.  Yn ol yr ysgolhaig Americanaidd Philip Meyer, ar dueddiadau presennol, fe fydd y ddau bapur yma wedi diflannu erbyn 2018. 

Mae penderfyniad awdurdodau lleol yr Alban a’r Llywodraeth SNP i hysbysebu ar lein yn unig  o hyn ymlaen yn hoelen  anferthol – gwerth tua £47 miliwn y flwyddyn – yn arch newyddiaduraeth print Albanaidd.  Fe fydd rhaid i´r sector cyhoeddus yng Nghymru ddilyn eu hesiampl tra`n cydnabod yr angen i gefnogi newyddiaduraeth Cymreig. 

Yng nghyd-destun penodol newyddiaduraeth Cymraeg rhaid cydnabod bod i bob cyfnod gyfrwng allweddol sydd yn erfyn normaleiddio – Beibl William Morgan, gweisg y ganrif cyn-ddiwethaf, radio a theledu a nawr y We.  Dyw cefnogwyr y Byd na cholofnwyr Barn a Planet na’r rhan fwyaf o intelligentsia Aberystwyth ddim yn cytuno yn ol pob son. Ond mae`r byd yn newid, ac mae rhaid i ni gofleidio`r newid neu ddarganfod ein hunain, fel beirdd y Canol Oesoedd  ar ol Brad yr Uchelwyr (oedd yn frad go iawn, gyda llaw) yn bobl a chyfrwng ond heb gynulleidfa, yn ddeinosoriaid deallusol.   

Leave a Reply

You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.

You must be logged in to post a comment.