Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

August 2009
M T W T F S S
« Jul   Sep »
 12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for August 4th, 2009

4th August 2009

Patagonia – y diweddaraf/the latest

Datganiad gan/Statement by UK Border Agency

A spokesperson for the UK Border Agency said: ”The UK Border Agency is keenly aware of the important cultural links between Patagonia and Wales. All visa applications are considered on their individual merits. The system is firm and fair, and it applies to everyone. ”Everyone trying to enter the United Kingdom needs to satisfy an immigration officer that they meet the immigration rules and will comply with any conditions applied to their visit. If an individual is unable to satisfy the immigration officer, they may be refused entry.”  On your question regarding who made the decision I can confirm that the decision was taken by an Entry Clearance Officer working for UKBA. I can also confirm that our post in New York is not run by Worldbridge they are our commercial partner who we contract to handle the applications but all decision making is done by UKBA staff: ”We are confident in the ability of our staff to apply the visa rules fairly and transparently. The Independent Monitor recently praised the Agency for its effectiveness when making difficult decisions.  ”Visitors to the UK need to meet the requirements of our immigration rules. For example, they must provide financial evidence that they can support themselves during the duration of the trip without recourse to public funds or employment, and satisfy the entry clearance officer that they intend to leave the UK at the end of the period of visit.” 

Bradychu’r Wladfa

Mae ffynhonellau yn yr Ariannin yn dweud bod ceisiadau visa y ddwy ferch o’r Wladfa, Shirley Edwards ac Evelyn Calcabrini, wedi eu gwrthod am yr eil-dro er gwaetha addewidion na fyddai hyn yn digwydd. Mae’r ddwy ferch heb dderbyn cadarnhad swyddogol o hyn eto ond mae ffynhonell dibynadwy iawn wedi cadarnhau hyn wrth Jeremy Wood, wnaeth gynrychioli’r Wladfa yn ddiweddar ar ymweliad i’r Eisteddfod.  Mae hyn yn arbennig o siomedig gan fod y Gweinidog yn y Swyddfa Dramor a chyfrifoldeb dros America Ladin yn Gymro – Chris Bryant AS – a Llys Gennad y Deyrnas Gyfunol i’r Ariannin yn Gymraes – Shan Morgan

Mae hefyd yn sarhad ar Lywodraeth Cymru sydd wedi arwyddo Cytundeb o Ddealltwriaeth gyda Thalaith Chubut ym mis Mawrth 2007 pan ymwelodd llywydd Chubut, Mario Das Neves a Chymru.  Fe gadarnhawyd y Cytundeb wedyn fel rhan o Gymru’n Un.  Mae cymal yn y ddogfen yn son am “ddatblygu a hyrwyddo cysylltiadau”.  Anodd gwneud hyn pan mae Llywodraeth Prydain y gwrthod cydnabod o gwbl natur unigryw y cysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa.  Mae gwrthod ceisiadau’r ddwy ferch yma yn dangos ansensitifrwydd ar raddfa ymerodrol at hanes a diwylliant Cymru, heb son am sarhad i bobl yr Ariannin sydd yn siwr o gael goblygiadau ehangach.  

Tybed a fyddai Cymru Annibynnol wedi gwrthod ceisiadau y ddwy ferch ifanc yma i ddychwlyd at eu mam-wlad – nid un-tro yn unig ond dwy-waith (mae’n debyg na chaiff un o honyn nhw hyd yn oed apelio ymhellach), a hynny hyd yn oed ar ol protestiadau ac ymgyrch codi-arian gatre yng Nghymru, a phwysau gan Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, ac Hywel Williams AS.  I’r gyfundrefn Brydeinig dyw Cymru, y Wladfa, yr iaith Gymraeg yn syml iawn ddim yn bodoli: eu rheolau nhw ydyn nhw, wedi’r cwbl, nid ein rheolau ni.  Nawr mae dyn yn sylweddoli pam wnaeth Michael D. a’r gweddil o’r Wladfawyr syrffedu ar dal i frwydro a breuddwydio am adeiladu’r Gymru Rydd dros y dwr ynlle.  Yr her i ni yw mynd un cam ymhellach a gwireddu’r freuddwyd gatre.