Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

June 2008
M T W T F S S
« May   Jul »
 1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
30  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for June 19th, 2008

19th June 2008

Y Gemau I Bawb (Colfon Golwg)

Llundeindod? Llundeinigrwydd? Llundeindra? Mae angen gair Cymraeg ar gyfer London-centricity, nid dim ond ar gyfer y BBC – sydd yn dioddef yn enbyd o hynny yn ôl eu ymgynghorwyr eu hunain – ond hefyd er mwyn disgrifio’r gofeb fwayf gostus erioed i eilun-addoli metropolitanaidd sydd yn dwyn y teitl London 2012. Mae’r Llywodraeth yn honni bod hyn yn annheg gan ddadlau y bydd yn gyfle i Brydain benbaladr gan na fydd y cystadleuaethau ddim yn Llundain i gyd p’run bynnag. Wel, ie, mae’r rhwyfo yng nghanolfan Coleg Eton, mae’r canwio ar yr Afon Lee a’r hwylio yn Weymouth. Ond go brin bod Berkshire, Swydd Hertford a Dorset yn cynrychioli balans daearyddol. Fe fydd yna gemau pel-droed yn Stadiwm y Mileniwm, Hampden Park ac ati, digon teg – ond eto yn Wembley fydd y gemau pwysig i gyd. Pa well symbol o gyfoeth a grym anwastad y Deyrnas Anghyfunol hon na’r ffaith na fydd na’r un podiwm tu fas i Ddeheudir Lloegr?

Mae’r Llywodraeth yn eu tro yn rhoi’r bai ar y Pwyllgor Olympaidd Rhynglawdol (yr IOC). Ac, ie, mae’r bobl pwysig hynny – unai allan o gyfleustra i’r athletwyr neu iddyn nhw eu hunain, duw a wyr - yn ewyllysio cynnal cymaint o’r gemau a sydd yn bosibl o fewn y brif ddinas. Ac eto, ble cynhelir cystadleuaethau marchogaeth Beijing ond yn Hong Kong sydd hanner cyfandir i ffwrdd - sef 1222 o filltiroedd i’r De-orllewin. Yn wir, pan gynhaliwyd y Gemau yn Los Angeles ym 1984 – y Gemau mwyaf llwyddiannus yn ariannol erioed – taenwyd y digwyddiadau dros dair talaith, naw sir a 27 dinas. Dywedodd un o drefnwyr y Gemau hynny wrtha i yn ddiweddar y byddai modd i drefnwyr Gemau Llundain fod yr un mor hy gyda’r IOC. Ar ol cael eich dewis yn gartref i’r gemau, meddai, does dim llawer y gallen nhw wneud.

Dydi hi ddim yn rhy hwyr felly i’r Llywodraeth Brydeining wneud y Gemau yn Gemau i bawb, a phob rhan o Brydain. Fe gafodd Weald Country Park yn Essex ei ddewis yn 2006 fel lleoliad ar gyfer y gystadleuaeth beicio mynydd ond mae’r ffederasiwn seiclo rhyngwladol ers hynny wedi mynegi amheuon. Yn fras, sut ellwch chi gael beicio mynydd heb fynyddoedd? Mae ateb amlwg i’r dilema i’r gorllewin ym Mharc Margam, un o’r cyrsiau beicio traws-gwlad gorau yn y byd. Ni ddylid gadael i ragfarnau Llundeinig y Pwyllgor Olympaidd Prydeinig na’r Llywodraeth benderfynu ar hyn. Os ydi’n harian ni yn ddigon da iddyn nhw, mae hawl ganddo ni i weld yr aur a’r efydd hefyd, ynghyd a gweld prydferthwch Cymru yn disgleirio ar lwyfan byd.

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

London-centricity is something which is becoming more and more apparent within the United Kindgom today. Not only does the BBC suffer from it (as was confirmed by its own advisors in a recent report), but it also aptly describes the most expensive monument ever built to idol-worship a capital city - London 2012. The UK Government argues that this is an unfair view to take, and that every corner of Britain will benefit from the games as not every competition will be held in London. That’s true enough. Rowing will take place at Eton College, canooing will take place on the River Lee and there will be sailing at Weymouth. However, I don’t think Berkshire, Hertford and Dorset are representative of a geographical balance. We will also see football matches being played at the Millenium Stadium, Hampden Park and so on, but all the important games will be played at Wembley. What better symbol of the wealth and the unbalanced power of this Disunited Kindgdom than the fact that there will be no podium outside of England during the Games?

The Government blames the International Olympics Committee for this fact. And, yes, these important people - either out of convenience for the athletes or for themselves, god knows - wish to hold as much of the Games as possible within the capital city. But yet, where are the horse-riding competitions in Beijing being held but in Hong Kong, which is half a continent away - 1222 miles to the South-West to be precise. Indeed, when the Games were held in Los Angeles in 1984 - the most financially successful games ever held - the events were spread over three states, nine counties and twenty-seven cities. One of the organisers of those Games told me recently that the organisers of the Games in London could be just as bold with the IOC. Indeed, he told me that after you have been selected as a home for the Games, there’s not much they can do about the arrangements.

Its, therefore, not too late for the British Government to make the Games an event for all, and every part of Britain. Weald Country Park in Essex was selected in 2006 as the location for the mountain biking competition, but the International Cycling Federation has expressed doubts about its suitability since then. After all, how can you have mountain biking without mountains? There’s an obvious solution to this dilemma if we look to the West - Margam Park, one of the best cross-country biking courses in the world. We shouldn’t let the London biases of the British Olympics Committee or the Government decide on this matter. Surely, if our money is good enough to be spent by them on the Games, then we should also have the right to reap some financial benefits as well as seeing the beauty of Wales taking a deserved prominent place on the world stage.

Angen mudiad newydd o fewn y Blaid (Colofn Golwg)

Siom yn hytrach na sioc oedd darllen mai dim ond chwarter o gefnogwyr Plaid Cymru wnaeth enwi annibyniaeth fel eu dyhead i Gymru. Dyw’r Blaid ddim wedi cenhadu ar fater hunanlywodraeth ers bron i genhedlaeth. Yn wir, dim ond ers pum mlynedd mae’r Blaid wedi arddel y term ‘annibyniaeth’ o gwbl. Mae hyn yn adlewyrchu natur ansicr cenedligrwydd Cymreig. Serch hynny, credaf mai arwain nid dilyn ydi priod waith cenedlaetholwyr.

Yn hyn o beth mae angen newid ‘cenhedlaethol’ o fewn y mudiad cenedlaethol. Mae’r to ifanc o aelodau’r Blaid – pawb dweder o dan 45 – yn credu mewn annibyniaeth yn glir ac yn groyw. Mae angen mudiad o fewn y mudiad nawr i greu rhagor o genedlaetholwyr darbwylliedig ar lawr gwlad. Mae arweinyddiaeth presennol y Blaid yn amheus o ddoethineb codi’r cwestiwn o annibyniaeth yng nghyd-destun etholiad, yn enwedig gydag ymgyrch refferendwm ar y gorwel. Ond o beidio diffinio ein nod tymor hir ein hunain – a chyflwyno dadleuon drosti – yr ydym yn gadael i’n gwrth-wynebwyr ei ddiffinio ar ein rhan.

Mae’r dadleuon sydd gennym ni yn rhai cryfion. Efallai bod Cymru ar waelod y tabl perfformiad economaidd o fewn y DU, ond fe fyddai pethe yn gwbl wahanol pe byddai Cymru yn rhydd. Mae ffigurau’r IMF ar GDP y pen yn dangos bod gan bedwar mas o’r pum gwlad cyfoethocaf yn y byd gyda poblogaethau o lai na phum miliwn. Ac mae mynegai cystadleurwydd y World Economic Forum yn dangos bod pump mas o’r saith wlad mwyaf llwyddiannus yn wledydd gyda llai na deg miliwn.

Yn wir, mae llwyddiant gwledydd bach annibynnol yn ymestyn tu hwnt i’r economi. Mae’r Mynegai Datblygiad Dynol sydd yn cynnwys pethau fel hyd bywyd ac addysg ond yn cynnwys un gwlad fawr, sef Siapan. Mae’r Mynegai Heddwch Byd-eang yn mesur pethau fel llofruddiaethau a phoblogaeth carchar ayyb. Y wlad mwyaf heddychlon ydi Norwy, ac mae wyth mas o’r deg uchaf yn wledydd bychain.

‘Roedd maint, ar un adeg, yn bwysig er mwyn sicrhau mynediad i farchnad fawr a’r lluoedd arfog i’w gwarchod. Ond y dyddie hyn mae gwledydd bach, o Singapore i’r Swisdir, yn gallu masnachu yn fyd-eang, ac mae Lwcsembwrg yr un mor ddiogel ag unrhyw aelod arall o NATO, ac Iwerddon yr un fath sydd ddim yn aelod o gwbl. Ym 1945, 45 o aelodau oedd yn rhan o’r Cenhedloedd Unedig. Erbyn hyn mae yna 192. A fydd Cymru yno cyn y 200ganfed? Mae e i fyny i chi. Yn llythrennol.