Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

June 2008
M T W T F S S
« May   Jul »
 1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
30  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for June 5th, 2008

5th June 2008

Colofn Golwg

Ar un gwedd, mae’n drueni ein bod bellach yn gorfod derbyn na fydd Hillary Rodham Clinton yn cael cyfle i  hawlio´r wobr o fod y fenyw gyntaf i gael ei hethol i`r Ty Gwyn, a`r cyntaf i fod o dras Cymreig ers Calvin Coolidge.  Serch hynny, mae hefyd yn anodd iawn i beidio a rhannu`r brwdfrydedd sydd wedi ei ymagor gan ymgeisyddiaeth Barack Obama.  
Pedwar deg mlynedd yn ol, ‘roedd 1968 yn flwyddyn fawr hefyd – gwanwyn o optimistaeth ar strydoedd Paris a Prag a drodd yn drasiedi, gyda delfrydwyr yn cael eu lladd (yn llythrennol felly) yn y Dwyrain a´r Gorllewin.  Gyda rhyfel amhoblogaidd yn cael ei ymladd yn  y cefndir a hil yn bwnc canolog, mae`r tebygrwydd rhwng Haf 1968 a heddiw yn glir. O leiaf nawr mae gan Obama warchodwyr diogelwch – newid a gyflwynwyd yn unig yn sgil saethu Robert F. Kennedy. 
 
Fe drodd Confensiwn Democrataidd y flwyddyn honno yn un o´r rhai mwyaf ymgecrus erioed – tan yr un eleni, efallai.  A dyna sydd yn fy mhoeni fi i feddwl mai 1968 unwaith eto nid 1960 fydd eleni.  Pedwar deg mlynyedd yn ol fe ennillodd Richard Milhouse Nixon yr arlywyddiaeth ac fe aed ati i ddwyshau ymdrechion America yn Fietnam.  Mae John McCain am ddilyn yr un polisi nawr yn Irac – a hefyd mae`n debyg yn Iran.
 
Mae McCain wedi beirniadu Obama yn ddiweddar am ei barodrwydd i siarad gydag arweinwyr Cuba.  Mae McCain am barhau gyda`r sanctsiymau sydd, dros yr hanner canrif diwethaf, wedi ceisio lladd economi yr ynys.  Yn eironig, bu McCain o blaid normaleiddio’r berthynas gyda’i gyn-arteithwyr yn Fietnam sydd fel Ciwba dal yn wlad Gomiwnyddol.  Hwyrach bod gyda hyn fwy i wneud a phleidleisiau yn Florida nag unrhyw egwyddor. 
 
Mae yna bethau i`w canmol yng Nghiwba – y systemau iechyd ac addysg er enghraifft – a phethau i`w beirniadu fel y cyfyngiadau ar deithio.  Nawr, a Ciwba wedi arwyddo datganiad iawnderau dynol y Cenhedloedd Unedig mae yna symudiadau pwysig yn cael eu gwneud i’r cyfeiriad iawn, ac mae camgymerdiau mawr y gorffennol - megis gormes yn erbyn hoywon er enghraifft – wedi eu cydnabod yn bersonol gan Fidel Castro.  A fyddai Tseina wedi newid er gwell pe na bae Nixon wedi mynd i Beijing? A faint fwy o Americanwyr fasai wedi eu lladd yn ofer heb daith dadleuol Henry Kissinger i Hanoi?

Mae yna genhedlaeth newydd yn haeddu  llais, gobaith ac arweiniad – yn Havana, yn America a’r byd.   Er mwyn dyn, gobeithio na leddir y freuddwyd y tro hwn.  Mae´r goblygiadau yn frawychus.