Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

January 2008
M T W T F S S
« Dec   Feb »
 123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for January 25th, 2008

25th January 2008

Colofn Golwg

Pe bae mil tri chant o blant yn marw bob blwyddyn o newyn mi fyddai na derfysg ar y stryd. Ond gan taw oerfel sydd yn lladd tri chant ar ddeg, a’u bod nhw yn hen a methedig, mae tlodi tanwydd rywsut wedi osgoi hyd yma yr adwaith mae’n ei haeddu. Ond efallai bod hynny ar fin newid. Mae Nwy Prydain wedi cyhoeddi eu bwriad i godi eu prisiau o 15%, saith gwaith lefel chwyddiant. Dyma’r trydydd cwmni i gyhoeddi codiadau anferthol yn eu prisiau dros yr wythnosau diwethaf, ac y disgwyl yw y bydd gweddill y chwe chwmni mawr yn dilyn eu hesiampl yn ystod y mis.
Mae’r ffaith bod y cwmnïau yn cydgordio’r codiadau yn ôl rhai yn dystiolaeth bellach eu bod nhw yn gweithredu yn anghystadleuol, yn cynllwynio yn erbyn buddiannau eu cwsmeriaid. Mae cynrychiolwyr y chwe cwmni mawr wedi cyfaddef iddynt gwrdd bob deufis i drafod strategaeth. Does dim gwahoddiad i’w cystadleuwyr bychain sydd yn cwyno bod y corfforaethau mawr yn codi ffioedd afresymol, i gysylltu gyda gorsafoedd er enghraifft, er mwyn eu cadw mas o’r farchnad.
 
Mi oedd y llynedd yn flwyddyn fawr i gwmnïau ynni gyda lefel record o elw yn cael ei ennill yn sgil gostyngiad yn y prisoedd cyfanwerthu. Ychydig o’r budd a drosglwyddwyd i’r cwsmer, a nawr mae prisiau yn codi unwaith eto. Pan fydd Nwy Prydain yn cyhoeddi eu helw yn yr wythnosau nesaf yr amcangyfrif yw y bydd tua £750 miliwn. Ar ben hyn oll mi fydd y cwmnïau ynni yn ennill £9 biliwn o elw ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf heb orfod gwneud dim. Yn syml mae’r cwmnïau yn trosglwyddo cost trwyddedau carbon newydd yr Undeb Ewropeaidd ymlaen i’r cwsmer er eu bod nhw yn derbyn y twyddedau tan 2012 yn rhad ac am ddim. Does dim syndod bod y cwmnïau ynni nawr wedi goddiweddyd y banciau o ran diffyg hygrededd gyda’i cwsmeriaid.

Mae undebau, defnyddwyr a hyd yn oedd rheoleiddydd sywddogol y sector ynni, Ofgem, wedi galw ar y Llywodraeth i gyflwyno treth-ar-elw-annisgwyl ar gwmnïau ynni ond mae’r Canghellor yn gyndyn i hyn rhag ofn i’r cwmnïau dorri nôl ar fuddsoddiad. Yn y cyfamser mae pensiynwyr trwy’r wlad yn torri nôl ar wres gyda chanlyniadau anochel. Mae prisiau ynni wedi dyblu dros y pum mlynedd diwethaf ond mae lwfans tanwydd gaeaf y llywodraeth wedi aros yr un peth. Mae’n hen bryd ei ddyblu. A’r cartel ynni ddylai dalu.