Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

October 2008
M T W T F S S
« Sep    
 12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

Archive for October 23rd, 2008

23rd October 2008

Colofn Golwg: Galw am arian papur dwyieithog: Calling for bilingual bank notes

Wales is the only part of the British Isles which hasn’t endured a banking crisis. England has seen Northern Rock being nationalised in Newcastle, and Bradfod and Bingley in Yorkshire. Edinburgh is still coming to terms with the shock of HBOS and RBS. And in Ireland, one bank has been made bankrupt - a sub-company of a German bank which wasn’t protected by the Republic’s guarantee. In Wales, we only have one bank - as a result of the late Julian Hodge’s imagination. The real banking crisis in Wales is the fact that we don’t have a banking sector in the first place.
 
Wales is also the only part of the Kingdom which doesn’t have its own banking notes. There is a symbolic strength to this. Of the four countries, Wales was the least successful is building its own business class and institutional infrastructure. Its some kind of anachronism that all our Celtic cousins are able to print their own money. Hong Kong is the only other place in the world where private banks are allowed to do this. But there is also a financial loss to this. Banks such as the Clydesdale in Scotland or Ulster Bank in Northern Ireland make a profit on the basis of the pounds that they produce - a seigniorage worth around £65 million in Scotland’s case, according to the Treasury.
 
But in Wales, its the Bank of England that has the monopoly ever since the North and South Wales Bank was swallowed up by the Midland union a hundred years earlier (which has since been swallowed up by HSBC which do produce their own money, but only in Hong Kong). We, of course, have the Royal Mint which produces its own seigniorage of over £100 million a year. But the Treasury own this profit, unfortunately.
 
As a symbolic declaration of national confidence, as a push for the tourism sector and as a cheap international marketing plot, why don’t we insist that the Bank of England produces bi-lingual versions of its five, ten, twenty, and even fifty pound notes? After all, they are an official bi-lingual body under the Welsh Language Act. And why not add the nationalised banks to the list - aren’t they now part of the public sector? In the real economy there’s a need for a Welsh banking presence: a real investment bank, not a shadow bank to Welsh Revenue - a People’s Bank created by the Welsh Government from the remnants of Halifax and the Rock.

- - - - - - - - - - -  - - - - - - - - - - -  — - - - - - - - - - - -  - - -
Cymru erbyn hyn ydi’r unig ran o ynysoedd Prydain sydd heb brofi argyfwng bancio.  Mae Lloegr wedi gweld gwladoli Northern Rock yn Newcastle a Bradford a Bingley yn Swydd Efrog. Mae Caeredin yn dal i ddygymod a sioc cyflafan HBOS ac RBS.  Mae un banc wedi mynd yn fethdalwr ar yr ynys werdd – is-gwmni i fanc Almaenig oedd heb ei ddiogelu gan warant y Weriniaeth.  Yng Nghymru un banc sydd gyda ni – cynnyrch dychymyg y diweddar Julian Hodge.  Yr argyfwng bancio Cymreig ydi’r ffaith nad oes gennym sector bancio i brofi creisus yn y lle cyntaf.

 

Cymru hefyd, wrth gwrs, ydi’r unig ran o’r Deyrnas heb ei phapurau punt ei hun.  Mae yna rym symbolaidd i hyn.  O’r pedair gwlad, Cymru fethodd fwyaf i adeiladau dosbarth busnes cynhenid a’r isadeiledd sefydliadol sydd ei angen ar ei gyfer.   Rhyw anachronistiaeth efallai ydi’r ffaith bod banciau ein cefndryd Celtaidd yn medru argraffu eu harian eu hunain.  Hong Kong ydi’r unig fan arall yn y byd sydd yn caniatau banciau preifat i wneud hynny.  Ond mae yna golled ariannol fan hyn hefyd.  Mae banciau fel y Clydesdale yn yr Alban neu’r Ulster Bank yng Ngogledd Iwerddon yn gwneud elw ar sail y punnoedd maen nhw yn cynhyrchu – seigniorage gwerth tua £65 miliwn y flwyddyn yn achos yr Alban, yn ol y Trysorlys.   

 

Ond yng Nghymru Banc Lloegr sydd a’r monopoli byth oddi ar i’r North and South Wales Bank gael ei lyncu gan y Midland union gan mlynedd cynt (wedi ei lyncu ei hun gan HSBC sydd yn cynnyrchu eu harian eu hunain, ysywaeth, dim ond yn Hong Kong).  Mae gennym y Royal Mint, wrth gwrs, sydd yn cynhyrchu elw seigniorage ei hun o dros £100 miliwn y flwyddyn.  Ond y  Trysorlys biau yr elw hwn yn anffodus.

 

Fel datganiad symbolaidd o hyder cenedlaethol, hwb i’r sector twristiaeth a fel marchnata rhyngwladol rhad, pam ddim mynnu bod Banc Lloegr yn cynhyrchu fersiynau dwyieithog o’i papurau pump, deg, ugain, a pham ddim, pump deg punt?  Mae nhw wedi ei ddynodi, wedi’r cwbl, yn gorff cyhoeddus o dan y Ddeddf Iaith.  A pham ddim nawr ychwangeu y banciau gwladoledig at y rhestr – ond ydyn nhw nawr yn rhan o’r sector cyhoeddus?   Yn yr economi real mae’r gwir angen am bresenoldeb bancio Cymreig: banc buddsoddi go iawn, nid cysgod-fanc Cyllid Cymru - a Banc y Bobl wedi ei greu gan y Llywodraeth Gymreig o weddillion yr Halifax a’r Rock.