Adam Price’s Blog

The Blog of Adam Price AS/MP, Carmarthen East and Dinefwr

Adam Price MP / AS - Carmarthen East and Dinefwr

Chwilio Blog Search

Deiseb / Petition

Posts

Calendr Blog Calendar

December 2008
M T W T F S S
« Nov    
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031  

Archifio Blog Archive

Yearly Blog Archive

Datganiadau'r Wasg
Press Releases

Cysylltiadau Blog Links

3rd April 2008

Colofn Golwg

Mae Des Browne, y Gweinidog Amddiffyn, yn annog trafodaethau gyda’r Taliban. Mae’r strategaeth o drafod gyda therfysgwyr - yn gyfrinachol os nad yn agored - wedi bod yn rhan o draddodiad polisi Prydain ers dyddiau’r gwrthryfel gwaedlyd ym Malaysia yn y 50au. Ond methiant yn y diwedd fu’r cadoediad a’r trafodaethau gyda’r arweinwyr guerilla yno. Fe ddychwelodd yr Ymerodraeth at dactegau milwrol, ochr yn ochr ag ymgais i ennill ‘calonnau a meddyliau’, sydd yn parhau hyd heddiw yn rhyw fath o fodel ar gyfer ymgyrchoedd gwrth-derfysgol llwyddiannus. 

Mae sylwadau Browne, sydd hefyd yn adleisio galwad ddiweddar Jonathan Powell,cyn-bennaeth swyddfa Tony Blair, am drafod gyda’r Taliban ynghyd ac Al Qaeda yn sicr yn cynrychioli pennod newydd yn agwedd y mandariniaid a’i meistri fel ei gilydd. Oes yna rhyw fath o gydnabyddiaeth yn llechu tu ôl i’r realaeth newydd - nad oes modd ennill y rhyfel hwn, o leiaf heb y math o dywallt gwaed oedd efallai yn dderbyniol yn oes MacMillan ond sydd yn gwbl anamgyffredadwy nawr, yn sicr yng nghysgod Irac? 

Dyw’r arwyddion ddim yn addawol. Ar draws ffin orllewinol Afghanistan mae rhanbarth arbennig o Pakistan sydd mor wyllt o anrhefnus fel ei bo hi’n wahanol i bob talaith arall ym Mhakistan. Caiff ei gweinyddu yn uniongyrchol o Islamabad. Wel, dim ond i’r graddau hynny y  gellir dweud bod gweinyddiaeth yn yr ystyr arferol yn bodoli yn ardaloedd llwythol y Pashtun ym Mhakistan. Dyma, wrth gwrs, yw’r prif lwyth hefyd yn rhanbarth Helmand lle mae’r Fyddin Brydeinig yn lladd ac yn cael eu lladd am y bedwaredd gwaith mewn dwy ganrif. Mewn arolwg diweddar wedi ei ariannu gan y Deyrnas Gyfunol, dim ond 4% o’r boblogaeth yn “Ardaloedd Llwythol” Pakistan sydd yn ystyried bod y Taliban yn derfysgwyr. Felly, faint bynnag o gynnydd a welir ym mrwydr lluoedd Nato tu draw i Fwlch y Khyber, mae yna hafan barhaol yn bodoli yno sydd tu hwnt i gyrraedd y Gorllewin.

Mae yna densiynau amlwg i’w gweld hefyd ym mherthynas Prydain a Llywodraeth Hamzid Kharzai. Mae hynny yn rhannol oherwydd nifer o achosion o ‘danio cyfeillgar’ rhwng milwyr tramor a heddlu lleol. Roedd yr achos diweddaraf o hynny rhyw bythefnos yn ôl pan saethwyd heddwas Afghani, yn ol yr adroddiadau, gan filwr o Brydain. Mae Karzai ei hun wedi beio y cynnydd mewn trais yn rhanbarth Helmand ar bresenoldeb milwyr Prydeinig. Fe wrthododd e dderbyn awgrym y Swyddfa Dramor i benodi Paddy Ashdown fel uwch-gennad yn Afghanistan, ac fe daflodd diplomydd o dras Prydeinig allan yng ngwyneb protestiadau gan Lundain. Gyda chyfeillion fel hyn, pwy sydd angen gelynion?

 

Leave a Reply

You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.

You must be logged in to post a comment.