10th December 2008
Colofn Golwg: Asiantaeth Gyfryngol i Gymru – Media Agency for Wales
Tair oes aur sydd yna i gyfathrebu yng Nghymru: barddoniaeth yr Oesoedd Canol, gweisg y bedwaredd ganrif ar bymtheg a theledu’r ugeinfed. Dim ond ychydig o ormodiaith yw honi taw’r BBC, HTV/ITV Cymru ac S4C yw Dafydd Gwilym , Iolo Goch a Dafydd Nanmor ein hoes ni.
Os oedd adfywiad ymwybyddiaeth ceneledlaethol cyfnod Cymru Fydd yn gynnyrch oes aur cyhoeddi yng Nghymru, roedd dadeni diwedd yr ugeinfed yn ganlyniad i deledu. Mae bodolaeth Cymru fel cenedl ymwybodol fodern i raddau helaeth iawn yn deillio o’r cyfrwng: nid ar hap a damwain y cysylltir enw Gwynfor Evans mor agos a sefydlu’r unig sianel deledu fasnachol Gymreig erioed, WWN, a’r unig sianel yn y byd i gael ei sefydlu oherwydd bygythiad ympryd. Nawr ar drothwy’r oes ddigidol yr ydyn ni ar fin gweld – gyda phroblemau ariannol ITV, yn yr iaith Saesneg o leiaf – diwedd nawdd i drafod cyfoes ar Gymru, gan Gymry yr un mor aphwysol ag effaith brad yr uchelwyr yn yr unfed ganrif ar hugain. Nid ar y BBC yn unig y bydd byw dyn.
Yr ateb yn yr Alban meddai Comisiwn wedi sefydlu gan y Llywodraeth SNP ydy sianel ddigidol newydd. Ac eto gall unrhyw un sefydlu sianel yfory ar ‘Youtube’ am ddim. Sut mae sicrhau digon o gynnwys cyffreiddiol, cyfredol am Gymru, o Gymru, i Gymru ydy’r cwestiwn craidd. Mae’r cwestiwn o gyfrwng yn eil-radd er cyn bwysiced ydy cadw ITV yn y tymor byr.
Mae consensws nawr yn codi tu ol i’r syniad o Asiantaeth Gyfryngol i Gymru fyddai a chyllideb a gofyniad statudol i gomisynu cynnwys gwasanaeth gyhoeddus i Gymru. Mae gweld yr asiantaeth dim ond yng nghyd-destun ITV tra bod y sector print mewn argyfwng a diffyg presenoldeb Cymru ar y we yr un mor amlwg a’n hanweladwyedd ni ym myd teledu ddwy genhedlaeth yn ol yn rhy gul o lawer. Rhaid cynnwys pob cyfrwng ym maes gorchwyl yr asiantaeth gan wahodd ceisiadau gan bapurau newydd, gorsafoedd radio, cwmniau gwe a theledu annibynnol yn ogystal ac ITV ei hunan neu Reuters, Sky News, News Wales neu pwy bynnag arall sydd am gynnig gwasanaeth newyddion Cymreig.
Does dim rheswm ychwaith pam na ddylai’r Asiantaeth fod yn gyfrifol yn yr un modd am gyllideb S4C a’r contract ar gyfer papur dyddiol Cymraeg. Nid sefydliadau wedi’r cwbl sydd yn bwysig ond safbwyntiau. A beth yw pris yr oes aur newydd cyfathrebol hon: tua £25 miliwn y flwyddyn o arian ychwanegol. Ceiniogau yn oes y cywyddwyr.
Leave a Reply
You can comment on this article. but you must register first.
Your reply will be moderated and not appear immediately.
You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.
You must be logged in to post a comment.